Dechrau/Sefydlu | 2016 |
---|---|
Lleoliad | Gogledd Iwerddon |
Mae An Dream Dearg yn fudiad anffurfiol sy'n ymgyrchu dros ddeddf iaith Wyddeleg a statws i'r iaith Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon. Ystyr yr enw yw "y criw coch; y dorf goch", mae hefyd yn idiom sy'n golygu "llawn llid".[1] Yn ôl tudalen Facebook y mudiad, mae'n esbonio ei hun fel hyn, "O'r criw oedd tu ôl i'r Diwrnod Coch - rydyn ni'n ôl. Coch gyda Dicter eto, yn fwy nag erioed. Camau i'w cymryd. Hawliau, Tegwch, Cyfiawnder."[2]
Daeth y mudiad i amlygrwydd rhyngwladol wrth drefnu ralïau a digwyddiadau o blaid statws i'r iaith Wyddeleg, gan gynnwys galw "am yr hyn sydd gan Gymru a'r Alban" (fel statws iaith).[1] Llwydda'r mudiad i drefnu sawl gweithgaredd dal llygad, gan gynnwys rali enfawr a ddenodd hyd at 17,000 o bobl yng nghanol dinas Belffast ar 21 Mai 2022.[3]